Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr
Ym mhabell Merched y Wawr ar Faes yr Eisteddfod, mae’r mudiad wedi lansio ymgyrch sy’n gofyn i bobol gyfrannu ategolion, neu accessories, er mwyn codi arian i brynu teclynnau i drin problemau ar y galon.

Bydd yr arian hefyd yn mynd at gynnal gwersi achub bywyd mewn cymunedau  a chodi ymwybyddiaeth o broblemau yn ymwneud ag iechyd y galon.

Yn sgarffiau, beltiau, mwclis, hetiau neu fenig – mae Merched y Wawr a Sefydliad y Galon yng Nghymru yn gobeithio codi digon o arian i sicrhau bod mwy o ddiffribiwlyddion o fewn ein cymunedau.

“Yn ogystal mae ganddom ni gystadleuaeth ar y cyd hefo’r Urdd sy’n gofyn i blant ysgol ddweud wrthom ni pwy neu beth yw calon eu cymuned,” meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr.

“Gyda’r arian byddwn yn medru sicrhau mwy o ddiffribiwlyddion o fewn ein cymunedau a chodi ymwybyddiaeth o broblemau yn ymwneud ag iechyd y galon”.

Dyma’r eilwaith i Ferched y Wawr a’r Urdd gydweithio i hyrwyddo gwaith elusen – y tro diwethaf fe gasglwyd £24,000 i Gymorth Cristnogol.