Morgan Hopkins, Llywydd y Dydd
Mae effaith Eisteddfod yr Urdd yn aros hefo chi am byth ond mae’n bwysig peidio ei gymryd yn ganiataol – dyna neges Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, yr actor a’r cyfarwyddwr Morgan Hopkins.

Yn frodor o Gaerffili, cafodd addysg Gymraeg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni er nad yw ei fam yn siarad Cymraeg.

Bu’n rhan o weithgareddau’r Urdd o oed cynnar ac fe ddywedodd bod  y dechreuad hwnnw, wnaeth ei arwain at yrfa actio yng Nghymru, yn “anhygoel o gryf”.

“Rwy’n cofio’r darn cyntaf nes i adrodd yn Eisteddfod yr Urdd ac mae hynny’n dod gan rywun sydd ddim yn medru cofio enwau ei blant ar adegau. Mae’n brawf o ba mor bell mae effaith yr Urdd yn ymestyn,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n bwysig cofio’r effaith mae’r ŵyl hon yn ei gael – mae’n ddechreuad anhygoel o gryf ac yn aros gyda ni. Ry’ ni’n cael ei swyno a’n cyfareddu gan yr Urdd ond dwi’n meddwl weithiau ein bod ni’n cymryd hynny’n ganiataol. Ac mae hynny’n drist.”

Pwysig ynghanol toriadau

Ynghanol cyfnod o doriadau, mae’r Eisteddfod yn “ofnadwy o bwysig”, meddai Morgan Hopkins:

“Mae’r defodau yma yn rhan o’n diwylliant ni ac mae’n bwysig cofio hynny. Mewn oes lle mae pethau’n diflannu bob yn dipyn, mae’r Eisteddfod yn ofnadwy o bwysig i ni.

Bu Morgan Hopkins yn cyfarwyddo sioe ieuenctid yr Urdd, gafodd ei pherfformio nos Sadwrn a nos Lun yng Nghanolfan y Glowyr, Y Coed Duon.

“Y sioe ddiwetha’ nes i ar gyfer yr Urdd, roedd dau berson ifanc ynddi o’r enw Mathew Rhys ac Ioan Gruffydd. Mae hynny yn brawf o Eisteddfod yr Urdd a’r dalent sydd yma.

“Roedd y plant yn ddawnus, yn ddoniol ac yn ddi-flewyn ar dafod.”