Cyhoeddwyd ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw bod y mudiad, ynghyd a’r Eisteddfod Genedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, wedi derbyn grant o £100,000 er mwyn cyflwyno digwyddiadau celfyddydol newydd yn ymwneud a’r sêr.

Mae’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn cyflwyno’r grant am ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 200 oed yn 2020 a’r bwriad yw “cyflwyno pynciau seryddiaeth, y gofod a geoffiseg i gynulleidfaoedd newydd” trwy ddiwylliant sy’n draddodiadol i Gymru.

Mae cynllun i gomisiynu darn o gerddoriaeth am y sêr i’w berfformio gyda chôr a cherddorfa  Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol eisoes ar y gweill.

Yn ogystal, bydd gwyddonwyr yn cyd-weithio hefo beirdd, cerddorion ac arbenigwyr celf mewn gweithdai, cystadlaethau a chomisiynu gwaith.

Mae’r prosiect yn rhedeg dros gyfnod o bum mlynedd ac fe fydd, ym marn Eleri Pryse sy’n ddarlithydd Ffiseg ym Mhrifysgol Aber, yn “estyn Gwyddoniaeth y tu hwnt i’w ffiniau arferol.”