Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi y bydd 17 o aelodau’r Urdd a phum person ifanc o Batagonia yn cyd-weithio ar gynhyrchiad theatr o’r enw Mimosa, i nodi 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf fentro i’r Wladfa.

Mewn cydweithrediad a chwmni Clwyd Theatr Cymru, fe fydd yr aelodau yn teithio i Batagonia i berfformio’r sioe’r flwyddyn nesa’.

A chyn hynny, mi fydden nhw’n perfformio ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod ym mis Awst y flwyddyn nesa’.

Yn ychwanegol, fe gyhoeddwyd enwau’r 25 person ifanc sydd wedi eu dewis ar gyfer taith yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru i Batagonia ym mis Hydref eleni – lle bydden nhw’n ymweld â Threlew, Esquel a Buenos Aires ac yn cael cyfle i gymdeithasu gyda phobl ifanc Archentaidd sy’n siarad Cymraeg.

Y disgyblion sydd wedi’u dewis yw:

De

·         Ysgol Plasmawr  – Tomos Ifan, Lucy Claire Marks ac Ela Pari Hughes

·         Ysgol Gyfun Glantaf – Elis Phillips Jones

·         Ysgol Gyfun Llangynwyd  – Carys Ellie Parry ac Emily Bruce

·         Ysgol Gyfun Ystalyfera  – Jacques Stefan Mahé

·         Ysgol Gyfun Gwynllyw  – Cara Hood a Sophie Georgia Allen

Gorllewin;

·         Ysgol Bro Myrddin  – Gwenllian Anthony

·         Ysgol y Preseli  – Eurgain Haf Wyn a Holly Evans

·         Ysgol Dyffryn Teifi  – Siriol Ifan Thomas

·         Ysgol Gyfun Aberaeron  – Carwyn Sion Hawkins a Catrin Haf Evans

Gogledd

·         Ysgol Brynhyfryd  – Beth Mars Lloyd a Lowri Jones Williams

·         Ysgol Dyffryn Conwy  – Branwen Tudur Morus a Rhiannon Eiddon Hughes

·         Ysgol y Berwyn  – Joseph Glyn Owen ac Ilan Hedd Jones

·         Ysgol Brynrefail  – Nia Haf ac Adam Carl Bragan

·         Ysgol Syr Thomas Jones  – Sorcha Roberts

·         Ysgol Gyfun Llangefni  – Hattie Plesant