Mae Cadeirydd Eisteddfod yr Urdd wedi dweud bod ffigwr yr ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl yn profi bod “brwdfrydedd arbennig” ymysg trigolion di-Gymraeg ardal Caerffili.
17,508 o bobol wnaeth ymweld â Maes Eisteddfod yr Urdd ar ei ddiwrnod cyntaf – sy’n 738 o bobol yn llai na’r llynedd ond yn 819 yn fwy na’r tro diwetha’ pan oedd yr Eisteddfod yn y de yn 2013.
Dywedodd Dyfrig Davies wrth golwg360 bod nifer o’r ymwelwyr yn bobol oedd yn camu ar dir yr Eisteddfod am y tro cyntaf.
‘Eisiau perchnogi’r’ Eisteddfod
Roedd y ffigyrau cyntaf yn “arbennig o dda” ac yn cymharu’n ffafriol iawn gyda Meirionydd llynedd a Phenfro’r flwyddyn gynt, meddai Dyfrig Davies.
“A beth sy’n dda yma yw bod pobol yma sydd ddim wedi bod o’r blaen, pobol sy’n ymweld am y tro cyntaf. A gobeithio ar ôl heddiw y byddwn ni’n gweld eu bod nhw’n dod ’nôl,” ychwanegodd.
“O siarad â Chymry di-Gymraeg yr ardal, mi roedd ‘na deimlad eu bod nhw eisiau perchnogi hon ac mae hynny’n braf.
“Mae’n rhaid i’r Eisteddfod a’r diwylliant dyfu, mae’n rhaid i ni fod yn genhadwyr a dweud y gwir. A dwi’n teimlo bod hynny yn digwydd yma.
“Mae rhywun yn teimlo brwdfrydedd lleol bob blwyddyn. Ond rwy’n teimlo bod brwdfrydedd arbennig ymhlith y di-Gymraeg eleni, ac o ran fi’n hunan dw i’n teimlo bod yr iaith yn perthyn i bawb – dyw e ddim yn beth gwleidyddol, sy’n beth iach iawn.”