Côr Glanaethwy yn cymryd rhan yn Britain's Got Talent
Côr Glanaethwy oedd yr act gyntaf i ennill ei lle yn ffeinal y sioe dalent Britain’s Got Talent neithiwr, wedi iddyn nhw gipio mwyafrif y bleidlais gyhoeddus.

Wedi i Gôr Glanaethwy, sydd gyda’ dros 160 o aelodau, ennill ei le yn y ffeinal, bu’n rhaid i’r beirniaid ddewis un act arall i ymuno a nhw.

Dewisodd Simon Cowell, Alesha Dixon, Amanda Holden a David Walliams y grŵp dawnsio Entity Allstars i ymuno a Chôr Glanaethwy yn y rownd derfynol nos Sul.

Yn dilyn perfformiad Glanaethwy, dywedodd Alesha Dixon ei bod hi wedi “syrthio mewn cariad” gyda nhw a dywedodd Amanda Holden ei bod hi’n credu y gallai’r côr ennill y gystadleuaeth.

Mae Glanaethwy yn cystadlu am y cyfle i berfformio yn sioe’r Royal Variety Performance eleni a gwobr ariannol o £250,000.