Joella Price
Mae Dysgwraig y Flwyddyn eleni wedi mynnu bod yn rhaid byw bywyd bob dydd yn y Gymraeg yn ogystal â mynychu dosbarthiadau os am fod yn rhugl yn yr iaith.

Fe enillodd Joella Price o Bort Talbot Dlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ddoe.

A phan ofynnwyd iddi beth oedd ei chyfrinach i ddysgu’r iaith mor rhugl, dywedodd ei bod yn cael digon o ymarfer.

“Mae’n bwysig cael dosbarthiadau, a chael rhywun proffesiynol yno i esbonio pethe i chi,” meddai Joella Price wrth golwg360.

“Ond mae’n bwysig gwneud pethe tu fas i’r dosbarth hefyd – mae’n bwysig byw yn y Gymraeg.”

Siarad Cymraeg yn ‘lysh’

Ar ôl mynychu ysgol ddi-gymraeg fe dreuliodd Joella Price flynyddoedd yn teithio’r byd gan fyw yn yr UDA, Awstralia, a Malta.

Mae hi bellach nôl yng Nghymru ac yn gweithio fel nyrs yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud bod cleifion Cymraeg eu hiaith yn gwerthfawrogi pan mae hi yno i’w helpu.

Doedd hi erioed wedi mynychu Eisteddfod cyn dechrau dysgu’r iaith yn 2010, ond mae’n dweud fod y profiad wedi bod yn agoriad llygad iddi.

“Mae wedi agor byd newydd, doeddwn i ddim yn sylweddoli am y diwylliant nes bod fi’n siarad yr iaith.”

Roedd ganddi air o gyngor i eraill sydd yn ystyried dysgu Cymraeg hefyd.

“Ewch amdano fe, mae’n werth y byd,” meddai. “Mae bywyd fi wedi newid, ac mae’n lysh siarad Cymraeg gyda’n ffrindie nawr!”