Twm Morys yn y lansiad
Daeth torf eang i’r Lolfa Len y bore ‘ma i goffau a dathlu cyfraniad un o feirdd mwya’r iaith Gymraeg, y diweddar Iwan Llwyd.
Drwy gyhoeddiad Barddas y daeth lansiad cyfrol Awen Iwan, casgliad o waith gan amryw o gyfranwyr megis y Prifeirdd Myrddin ap Dafydd, Alan Llwyd a’r myfyriwr ymchwil PhD Manon Davies.
Dywedodd Manon Davies, sydd yn ymchwilio i waith a barddoniaeth Iwan Llwyd: “Cyfrol o ysgrifau beirniadol o waith a barddoniaeth yw Awen Iwan sy’n son am ei gyfraniad fel colofnydd Barddas, cerddor, a dadansoddiad o ddelweddau yn ei gerddi.”
Bu Twm Morys, golygydd y gyfrol yn cyfrannu i’r digwyddiad yn ogystal â cherddoriaeth byw gan Geraint Lovegreen a’i fand a darlleniadau gan Myrddin ap Dafydd a Phrifardd y goron eleni, Guto Dafydd.
Hefyd datgelodd Guto Dafydd fod ei enw barddol, Golygfa Deg yn hanu o ddylanwad Iwan Llwyd, gyda’r enw yn deillio o’r gerdd o’r un enw.
Geraint Lovgreen yn perfformio yn lansiad Awen Iwan y bore yma: