Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cadarnhau heddiw y byddan nhw’n mabwysiadu parthau .cymru a .wales yn swyddogol pan fyddan nhw’n cael eu lansio’n ddiweddarach eleni.

Yr Eisteddfod yw’r sefydliad diweddaraf i gadarnhau eu hymrwymiad i’r prosiect newydd, ac mae’r Urdd, Merched y Wawr, Comisiynydd y Gymraeg ymhlith llu o sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo eisoes.

Mae S4C, FSB (Ffederasiwn Busnesau Bach) Cymru, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Brenhinol Cymru, Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor y Celfyddydau Cymru hefyd yn bwriadu manteisio ar y parth newydd.

‘Cam naturiol’

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Mae’r Eisteddfod yn falch iawn o fod yn rhan o .cymru a .wales.

“Mae’n gam naturiol i ni fabwysiadu’r brand hwn, gan fod yr Eisteddfod yn un o frandiau blaenaf Cymru a’r ŵyl yn ffenestr siop arbennig ar gyfer Cymru, felly bydd cael cyfeiriad .cymru a .wales yn gaffaeliad i ni a’n gwaith.

Yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones: “Mae’r Urdd yn credu y bydd defnyddio’r parth .cymru yn atgyfnerthu’n neges i’n haelodau o bwysigrwydd ein hunaniaeth Gymraeg a Chymreig.

“Edrychwn ymlaen at allu cyflwyno’r datblygiad pwysig hwn i’n gwefan sy’n cyfathrebu gyda’n 50,000 o aelodau ac sy’n  un o’r gwefannau Cymraeg mwyaf poblogaidd.”

‘Gosod eu marc’

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, Ieuan Evans: “Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu cyhoeddi bod y cyrff Cymreig allweddol hyn am newid eu henwau parth i .cymru a .wales cyn gynted â phosib.

“Mae’r enwau parth yn cynnig cyfle gwych i iaith a diwylliant unigryw Cymru i osod eu marc ar y byd digidol ac mae’n wych bod y cyrff allweddol hyn yn ymuno â ni ar y daith wrth arwain y ffordd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill led led Cymru.”