Joella Price
Symud i bellteroedd byd oedd wedi rhwystro Joella Price o Bort Talbot rhag dysgu Cymraeg flynyddoedd yn ôl.

Ond, ar ôl ailafael ynddi bedair blynedd yn ôl, mae wedi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe enillodd wobr o £300 a thlws wedi’i roi gan Terry a Catrin Stevens.

Defnyddio’r Gymraeg

A hithau’n gweithio yn yr uned ofal dwys yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd mae Joella Price bellach yn defnyddio’r iaith yn ei gwaith bob dydd.

Fe ddaeth yn ôl i Gymru ddwy flynedd yn ôl ar ôl ailddechrau dysgu pan oedd hi’n byw yn Nottingham.

Roedd hi wedi dechrau dysgu flynyddoedd ynghynt yn Abertawe ond wedyn wedi symud i fyw i lefydd mor bell ag Awstralia, yr Unol Daleithiau a Malta.