Owain Schiavone sydd yma gyda phodlediad golwg360 o faes yr Eisteddfod heddiw, ac mae thema cerddorol i’r ddau westai sydd yn ymuno ag ef.

Rhys Aneurin o fand Yr Ods, a Sioned Edwards o’r Eisteddfod Genedlaethol, sydd yn ymuno ag Owain heno ar y maes wrth iddyn nhw fwynhau awyrgylch y dydd gyda recordiad yn yr awyr agored.

Mae’r tri’n trafod arddangosfa Cloriau, ble mae rhai o enwau amlycaf yng ngherddoriaeth Cymru wedi dewis a dethol eu hoff albymau o’r 40 mlynedd diwethaf.

Maen nhw hefyd yn rhoi rhywfaint o sylw i wobr Albwm Y Flwyddyn fydd yn cael ei chyhoeddi fory – a cheisio delio ag ambell gerbyd a charw sydd yn ymuno â nhw ar y maes.