Aled Jones Williams
Mae maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni “wedi’i drefnu’n hynod o dda”, yn ôl Aled Jones Williams.

Yn ystod yr wythnos mae’r dramodydd wedi bod yn rhoi gweithdai sgriptio drama ar ran cwmni Bara Caws ar y Maes eleni eto – gan roi ei farn ar Bentre Drama newydd y Maes yn Llanelli.

Yno mae’r Cwt Drama lle mae Dŵr Mawr Dyfn gan Glesni Haf Jones, enillydd Medal Ddrama 2013, i’w gweld ddiwedd bob pnawn.

Mae’r cwt hefyd yn gartref i’r Theatr sy’n rhoi llwyfan i gymdeithasau a chwmnïau drama o bob cwr o Gymru, a Chaffi’r Theatrau, sydd yn gaffi o’r iawn ryw erbyn hyn i’r lyfis a’r dramatwrgiaid yn ein plith!

“Mae’r maes wedi’i drefnu’n hynod o dda, gan fod yna lecynnau ar gyfer lot o bethau,” esboniodd Aled Jones Williams mewn cyfweliad â Non Tudur.

Gwyliwch y sgwrs yma: