Gwobr Goffa Daniel Owen
Lleucu Roberts o Rostryfan, Caernarfon yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni.

Rhoddir Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel sydd heb ei chyhoeddi gyda llinyn storїol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y beirniaid oedd Bethan Mair, Gareth Davies Jones, a Caryl Lewis.  Mae’r enillydd yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 (£2,000 Cronfa Llên Dinefwr; £1,000 yn rhoddedig er cof am Tom Gravell, Cydweli gan ei fab, David, Indeg a’r teulu; £1,000 Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman; a £1,000 Eglwys Gymraeg yr Annibynwyr, Loveday Street, Birmingham).

Mae Rhwng Edafedd gan Botwm Crys yn adrodd hanes Eifion.  Ar gychwyn y nofel mae Eifion yn bygwth neidio oddi ar Bont Borth, er mwyn dianc o’i fywyd.  Teimla bod popeth yn fethiant, ei fusnes, ei berthynas â’i deulu a’i briodas.  Mae’r nofel yn adrodd ei hanes wrth iddo geisio delio gyda’r problemau ac ail-afael yn ei fywyd.

‘Nofel gyflawn a chymesur’

Meddai Gareth Davies Jones wrth draddodi’r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn: “Ar y cyfan, mae’r prif gymeriadau’n argyhoeddi – maen nhw’n gyson a chredadwy ac yn amlygu adnabyddiaeth gadarn yr awdur o’r natur ddynol a’i broblemau.  Mae diweddglo’r nofel yn drist ac yn effeithiol o annisgwyl, ond, er hynny, yn cael ei drin yn sensitif a chyda chydymdeimlad.

“Mae hon yn nofel gyflawn a chymesur, a theimlwn ar ôl ei darllen ein bod wedi bod ar daith gydag Eifion i dywyllwch enaid ac wedi dod nôl gydag ef i’r lan.

“Dyma’r nofel orau yn y gystadleuaeth.  Ail gyflwyniad ydi hi o nofel a gyflwynwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011.  Mae’n debygol fod yna fireinio wedi bod arni ers hynny, ac ar ôl hir drafod ac ystyried, rydym yn gytûn fel beirniaid ei bod yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.”

Yr awdur

Magwyd Lleucu Roberts yn ardal Bow Street, Ceredigion, ond mae hi wedi bod yn byw yn Rhostryfan, ger Caernarfon ers dros ugain mlynedd.  Mae’n briod â Pod, ac mae ganddyn nhw bedwar o blant, Gruffudd, Ffraid, Saran a Gwern.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydypennau, Ysgol Penweddig, a Phrifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg, ac ennill gradd doethur yn 1989.  Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli ym 1982 tra roedd yn yr ysgol.

Bu’n gweithio fel golygydd yng Ngwasg y Lolfa cyn troi ei llaw at ysgrifennu a sgriptio cyfresi teledu a radio. Bellach, mae’n awdur ac yn gyfieithydd amser llawn. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion a 5 nofel i blant ac oedolion ifanc. Enillodd wobr Tir na-n-Og ddwywaith.

Bydd Rhwng Edafedd ar werth mewn siopau ar hyd a lled y Maes a thrwy Gymru yn syth ar ôl y seremoni.