Margaret Davies gyda Mari Stephens
Roedd un o gystadleuwyr buddugol yr Eisteddfod sy’n defnyddio cadair olwyn yn cwyno nad oedd cyfleusterau toiledau i’r anabl y tu ôl i lwyfan y Pafiliwn.

Mae Margaret Davies o Gaerdydd, yn wreiddiol o Don Pentre yn y Rhondda, wedi cystadlu gyda Chôr Pensiynwyr y Mochyn Du ers chwe blynedd yn y brifwyl. Dyma’r tro cyntaf iddi beidio â chael cyfleusterau toiled i’r anabl y tu ôl i’r llwyfan.

“Dywedodd y stiward y gallai gael allwedd i’r toiled dibyniaeth-dwys a oedd ymhell i ffwrdd,” meddai. “Ond roedd disgwyl i ni fod ar lwyfan, a doedd gen i ddim amser i sortio hynny mas. Dw i ddim angen toiled dibyniaeth-dwys beth bynnag, dim ond toiled normal i’r anabl. Doedd ganddo mo’r allwedd beth bynnag.

“Maen nhw’n gwneud llawer o le parcio i bobol anabl sy’n dda iawn yma, ond ar y llaw arall,  pan y’ch chi eisie defnyddio’r toiled yn gyflym, cyn mynd ar lwyfan a phan chi ddim ar y Maes…”

‘Embaras’

Dywedodd ei ffrind Mari Stephens, a oedd yn ei helpu, ei fod yn brofiad sy’n peri embaras ac yn “demeaning”, ac roedd Margaret Davies yn cytuno.

“Roedd yn rhaid iddi fy helpu i mewn ac allan,” meddai. “Petawn i wedi dod â’m ffyn baglau fe fyddai’n wahanol, ond do’n i heb ddod â nhw. O’n i’n trio dod allan, a phawb yn sefyll yn ceisio dod i mewn, ac mae pawb yn mynd i fod yn edrych arnoch chi.

“Os yw’r cyfleusterau yma, fe fyddai rhagor o bobol eisiau bod yn rhan o gorau achos maen nhw’n gwybod y gallan nhw ddefnyddio’r toiledau. Dw i’n hoffi bod yn annibynnol.”

Mi glywodd hi gan stiward mai diffyg arian oedd yn gyfrifol am hepgor y toiled i’r anabl gefn llwyfan ond wnaeth yr Eisteddfod ddim cadarnhau hynny.

“Fel arfer mae yna doiled anabl yma,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod. “Rydan ni’n syrthio ar ein bai ac yn ymddiheuro, ac mi fydd toiled i’r anabl yna’r flwyddyn nesaf.”

Newyddion da oedd mai côr Margaret Davies oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Côr Pensiynwyr dros 60 oed.