Mae angen buddsoddi mwy mewn ysgolion i sicrhau dyfodol y Sin Roc Gymraeg (SRG) – dyna gasgliad panel amrywiol sy’n cynrychioli’r sin yn ystod trafodaeth yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod.
Bu Owain Schiavone, trefnwyr gigs Y Selar, yn gadeirydd ar y drafodaeth a oedd yn cynnwys y DJ Radio 1, Bethan Elfyn; Dirprwy Brif Weithredwr Menter Bro Dinefwr, Owain Glenister; trefnydd gigs Mafon, Owain ‘Nico’ Dafydd; ac aelod o Gowbois Rhos Botwnnog, Aled Hughes.
Dechreuodd y drafodaeth drwy gyfeirio at y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, a ddaeth i ben ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod parhau i ariannu’r asiantaeth, a oedd cefnogi ac yn hybu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru..
Mae absenoldeb y sefydliad wedi peri cwestiynau ymhlith y SRG ynglŷn â sut mae modd i fandiau Cymraeg ddatblygu heb fentora a heb wybodaeth ddefnyddiol y wefan.
Yn ogystal â hyn, trafodwyd cymhelliant grwpiau i barhau unwaith iddyn nhw chwarae’r gigs mawr yng Nghymru.
Awgrymodd Bethan Elfyn bod yna lai o gymhelliant i fandiau barhau ar ôl chwarae nos Sadwrn olaf Maes B.
Ond dywedodd Aled Hughes bod y safbwynt hwn yn rhyfedd gan ychwanegu y byddai’n ei annog i recordio a rhyddhau albwms a chwarae mwy o gigs.
Wrth drafod yr ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yng ngwahanol ardaloedd Cymru dywedodd Owain Glenister bod yn rhaid gwneud mwy i hybu cerddoriaeth Gymraeg mewn ardaloedd fel Sir Gâr.
Ychwanegodd Owain Schiavone fod Taith Ysgolion yn ffordd dda o sicrhau hyn ond bod hefyd rhaid sicrhau bod lleoliadau gigs ar gael.
Fe bwysleisiodd Owain ‘Nico’ Dafydd bod angen buddsoddi mewn ysgolion i sicrhau bod cynulleidfa ifanc, frwdfrydig yn mynychu gigs mewn ardaloedd megis Crymych.
Cyfeiriodd Bethan Elfyn at lwyddiant cynllun Young Promoters Network sydd yn cael ei ariannu gan Gyngor Rhodda Cynon Taf.
Cafwyd consensws ymhlith y panel bod angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael i fandiau ifanc sydd yn ceisio datblygu, nawr bod y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi dirwyn i ben.