Endaf Emlyn
Bu Endaf Emlyn yn rhyddhau copi CD cyfyngedig o’i albwm chwedlonol ‘Salem’ prynhawn yma ar stondin Awen Meirion ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar.

Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ar gyfrwng finyl yn 1974, a gyda’r albwm yn ddeugain oed eleni cafodd ei ryddhau ar gyfrwng CD.

Bydd 100 copi yn unig ar gael o stondin Awen Meirion, gydag Endaf Emlyn yn hyrwyddo’r digwyddiad.

Hefyd, mae’r cynhyrchydd Eurof Williams wedi dethol y clawr fel un o’i hoff gloriau, gyda’r clawr a hanes yr albwm hefyd i’w weld ar arddangosfa cloriau ar y maes.