Guto Harri
Bu’r newyddiadurwr profiadol Guto Harri, sydd bellach yn gweithio i News UK, yn trafod cyfleon newydd i annog ac ysgogi’r genhedlaeth ifanc i ystyried gyrfa ym maes newyddiaduriaeth fel rhan o ymgyrch News Academy.

Sefydlwyd y corff News Academy er mwyn hyrwyddo newyddiaduriaeth fel gyrfa, gan ddarparu cynhadleddau mewn ysgolion i geisio denu ac annog diddordeb pobl ifanc mewn newyddiaduriaeth ysgrifenedig, ffotograffiaeth newyddiadurol a dylunio.

Yn cyd-gyflwyno’r prosiect ar faes yr Eisteddfod heddiw roedd Sian Griffiths, golygydd addysg y Sunday Times a Pryderi Gruffydd, cynllunydd graffeg i’r wasg.

“Mae yna gyrsiau am ddim yna ynglŷn â sut i ysgrifennu storiau, sut i ddod o hyd i stori, sut mae cadw at y gyfraith, sut mae adeiladu contact list – arfau sylfaenol y grefft,” esboniodd Guto Harri.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ar cyrsiau www.news.co.uk/academy