Mae aelodau o gôr yn dweud eu bod wedi cael eu rhwystro rhag gwisgo bathodynnau Palestina ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ac mae’r Eisteddfod yn dweud mai penderfyniad y BBC oedd hynny.

Fe atebodd y Gorfforaeth trwy ddweud bod camddealltwriaeth wedi bod.

Fe ddywedodd aelodau Côr Seingar wrth Golwg360 eu bod wedi cael gorchymyn i dynnu bathodynnau ‘Rhyddid i Balestina’, cyn mynd ar y llwyfan ddydd Sul.

Fel arall, meddai’r aelodau, roedden nhw wedi cael rhybudd na fyddai’r perfformiad yn cael ei ddarlledu.

Fe ddywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Ellis, mai mater i’r BBC oedd hynny.

‘Camddealltwriaeth’ – BBC

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru mewn datganiad prynhawn ma: “Rydym yn meddwl bod camddealltwriaeth wedi digwydd. Nid oedd problem gyda’r bathodynnau, a byddai’r BBC wedi darlledu perfformiad y côr pe bydden nhw wedi bod yn gwisgo’r bathodynnau.”

Munud ola’

Cafodd y côr wybod na fyddai modd iddyn nhw wisgo’r bathodynnau eiliadau cyn mynd ar y llwyfan, ond chawson nhw ddim esboniad ar y pryd pwy wnaeth y penderfyniad na pham.

Dywedodd Llinos Roberts, aelod o Gôr Seingar, wrth golwg360: “Fe gawson ni wybod jyst cyn mynd ar y llwyfan fod rhaid i ni dynnu’n bathodynnau, neu fydden ni ddim yn cael ein darlledu.

“Fe ddigwyddodd y peth yn reit sydyn. Doedd pob un ohonon ni ddim yn gwisgo’r bathodynnau, ond fe wnaethon ni eu tynnu er tegwch i’r rheiny yn y côr oedd ddim.

“Roedden ni jyst yn gwisgo’r bathodynnau i ddangos cefnogaeth.

“Penderfyniad unigol, personol oedd o. Roedden ni wedi’n synnu a dweud y gwir, ac wedi siomi’n fawr â’r penderfyniad.”