Mae sefyllfa’r diwydiant llyfrau yng Nghymru ar hyn o bryd yn “ddifrifol o wael,” yn ôl Golygydd Cyffredinol Y Lolfa, Lefi Gruffudd.

Mae siopau llyfrau ar draws Prydain mewn sefyllfa bryderus ar hyn o bryd, meddai, gyda llai na 1,000 o siopau llyfrau annibynnol ym Mhrydain heddiw.

“Does dim siop lyfrau Cymraeg fan hyn yn Llanelli ac mae’r sefyllfa yng Nghaerdydd yn drychinebus,” meddai.

Dywedodd Lefi Gruffudd wrth golwg360 bod yn rhaid i’r Cyngor Llyfrau a’r Llywodraeth gyd-weithio’n well:

“Mae angen sefyllfa lle mae’r  Cyngor Llyfrau a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau datrysiad i’r sefyllfa bresennol”.

Bu’n siarad mewn digwyddiad ‘Cyhoeddi Llai, Marchnata Mwy?’ yn y Lolfa Lên ar faes yr Eisteddfod.

Yn ogystal â Lefi Gruffudd, roedd Richard Owen (Cyngor Llyfrau Cymru), Eirian James (perchennog siop Palas Print) a Meg Elis yn siarad yn y digwyddiad o dan ofal Robert Rhys, Cadeirydd Barn Cyf.

Fel datrysiad i’r sefyllfa, awgrymodd Meg Elis bod yn rhaid i siopau llyfrau bod yn fwy ymosodol wrth farchnata.

“Mae rhaid mynd tu allan i’r siopau llyfrau. Mae’n rhaid mynd i wyliau cerddorol ac yn y blaen,” meddai Meg Elis.

Pwysleisiodd Eirian James am yr angen i gefnogi siopau annibynnol cyffredinol trwy brynu llai ar y we.

“Mae’r diwydiant llyfrau yn gweld yr un fath o sefyllfa ag oedd y diwydiant recordiau blynyddoedd yn ôl.

“Os ydy’r strydoedd mawr am barhau, mae’n rhaid eu cefnogi,” meddai Eirian James.