Mae rhai o gymdeithasau cerddoriaeth werin amlycaf Cymru wedi dod at ei gilydd yn yr Eisteddfod o dan yr un to – neu iwrt, i fod yn fanwl gywir – ar gyfer partneriaeth newydd.

Bydd y Tŷ Gwerin yn rhoi llwyfan i artistiaid gwerin hen a newydd yn ystod yr ŵyl eleni, ar ôl grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n golygu y bydd Trac, Clera a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru’n dod at ei gilydd.

Mae’r sefydliadau wedi ymgynnull mewn iwrt mawr ar y maes er mwyn ceisio datblygu cerddoriaeth werinol yng Nghymru, gan gynnwys dwy gystadleuaeth  newydd – cystadleuaeth offerynnol draddodiadol a chystadleuaeth cân werin gyda hunangyfeiliant.

“Mae’n gyfle i ddod a’r mudiadau at ein gilydd dan yr un to,” meddai Angharad Jenkins o Trac.

“Rydan ni’n ceisio adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd gwerin heddiw ond heb anghofio’r traddodiadol.”

Ymysg y sesiynau fydd yn digwydd yn yr iwrt yn ystod yr wythnos bydd rhai gyda Roy Saer, Gareth Bonello, Gwenan Gibbard a Sioned Webb, yn ogystal â thrafodaeth gydag Idris Morris Jones.

Bydd Clera hefyd yn cynnal sesiynau cerddoriaeth draddodiadol bob dydd yn y Tŷ Gwerin am 12.00yp, ac ar y dydd Sadwrn olaf fe fydd Mynediad Am Ddim yno yn dathlu pen-blwydd y grŵp yn 40 oed.