Dylan Ebenezer
Fe fydd S4C yn darlledu gêm gyfeillgar Abertawe v Villarreal ddydd Sadwrn (9 Awst) yn fyw ar y we.

Ond, os na fyddwch chi’n gallu setlo o flaen eich cyfrifiadur neu declyn erbyn y gic gyntaf am 3 y prynhawn, bydd modd gweld y gêm gyfan eto ar S4C y diwrnod canlynol am 4yp.

Fe fydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch ar gyfer y ddau ddarllediad.

Dyma fydd y gêm barataol olaf cyn i Abertawe wynebu gêm gyntaf Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Manchester United yn Old Trafford y Sadwrn canlynol.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno o Stadiwm Liberty, gyda Malcolm Allen a John Hartson yn trafod a dadansoddi’r chwarae a Nic Parry yn sylwebu.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C: “Bydd yna gryn ddiddordeb yn y gêm yma rhwng timau o ddwy o gynghreiriau clwb mwya’r byd. Rydym yn falch iawn bod S4C yn gallu darlledu gêm a fydd o ddiddordeb i ddilynwyr y gêm ledled y Deyrnas Unedig.”

‘Rhaid i’r Elyrch gael dechrau da’

Mae Malcolm Allen, cyn-chwaraewr Cymru a Newcastle, yn credu y bydd y gêm yn llinyn mesur o sut mae Abertawe yn siapio o dan yr hyfforddwr Garry Monk.

“Dwi’n gwybod y bydd llawer o gefnogwyr Abertawe yn anghytuno hefo mi, ond dwi’n gweld yr Elyrch yn ei chael hi’n anodd iawn y tymor hwn.

“Rhaid iddyn nhw gael dechrau da neu fe fyddan nhw’n wynebu’r frwydr o geisio osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair o’r dechrau un.

“Mae ganddyn nhw reolwr ifanc dibrofiad ac wedi colli amryw chwaraewr allweddol. Fe fydd yn anodd cael hyd i chwaraewyr i lenwi sgidiau Davies, Michu a Vorm.

“Ond os gallan nhw gael dechrau da – gan gynnwys buddugoliaeth swmpus yn y gêm gyfeillgar hon, fe all roi hyder i’r chwaraewyr yn yr ystafell newid.”