Fe ymwelodd 16,285 o bobol â’r Eisteddfod Genedlaethol ddoe, yn ôl cyfrif trydar swyddogol yr Eisteddfod.
Dyna’r dydd Llun gorau ers Eisteddfod Meirion yn 2009
Mae’n debyg bod y tywydd braf wedi helpu’r Eisteddfod, sy’n cael ei chynnal yn Llanelli’r flwyddyn hon, i ddenu llwyth o ymwelwyr i’r Maes ddoe – er fod ffigurau’r penwythnos yn is nag arfer.
O’r holl ddigwyddiadau ar y maes ddoe, y mwyaf nodedig oedd Seremoni’r Coroni.
Guto Dafydd, 24, oedd enillydd y goron – un o’r tri ieuenga’ i ennill y wobr yn y cyfnod modern.
Yn ychwanegol, fe enillodd Marian Delyth Wobr Ifor Davies yn y Lle Celf am ei chyfres ffotograffau Cilmeri.
I glywed rhagor am ddigwyddiadau dydd Llun, gwrandewch ar bodlediad golwg360.