Heddlu ar y maes ger y Ganolfan Groeso y bore yma
Mae heddlu’n ymchwilio ar ôl i ladron dorri i mewn i Ganolfan Groeso’r Eisteddfod Genedlaethol a dwyn miloedd o bunnoedd o arian mân.

Y gred yw eu bod wedi dwyn tua £5,000 o sêff lle mae rhywfaint o arian yn cael ei gadw at y diwrnod wedyn.

Fe ddigwyddodd y lladrad rywdro yn ystod y nos neithiwr o’r maes sydd ger yr arfordir yn Llanelli.

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, roedden nhw wedi torri o dan ffens a thrwy bared plastig er mwyn mynd i mewn i’r Ganolfan, sef y brif fynedfa i’r Maes.

Peiriannau

“Mae Securicor yn dod bob dydd i gasglu’r rhan fwya’ o’r arian,” meddai Elfen Roberts, “ond mae’n rhaid cadw rhywfaint o arian mân yn ôl er mwyn y diwrnod wedyn.”

Roedd rhai peiriannau hefyd wedi cael eu dwyn, er na fydden nhw o fawr ddim gwerth i neb ond yr Eisteddfod ei hun.

Mae’r Eisteddfod yn cyflogi cwmni diogelwch ers rhai blynyddoedd ond mae ffiniau’r maes yn hirach nag arfer eleni.