Yr Athro Richard Wyn Jones
Does gan Gymru ddim gobaith o gael gwared â Fformiwla Barnett heb i’r Alban fynd yn annibynnol, yn ôl academydd gwleidyddol blaenllaw.

Dywedodd Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd na fyddai pleidiau gwleidyddol Prydain yn ystyried diwygio’r fformiwla tra bod yr Alban yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Gan y byddai newid y fformiwla’n golygu llai o arian i’r Alban, fe fyddai’r pleidiau mawr yn ofni digio’r Sgotiaid.

Ond mae’r Farwnes Eluned Morgan, Aelod Llafur o Dy’r Arglwyddi, wedi dweud y byddai’n “naïf” disgwyl i’r drefn ariannol bresennol gael ei newid yn y sefyllfa wleidyddol bresennol.

Trafod ar y Maes

Roedd y ddau ohonyn nhw, a’r awdur a’r ymgyrchydd Angharad Tomos, yn siarad mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod i drafod effaith refferendwm annibyniaeth yr Alban ar Gymru.

Fe drodd y drafodaeth yn fuan tuag at fformiwla Barnett, sy’n cael ei defnyddio i benderfynu faint o arian mae Llywodraeth Cymru’n ei gael i wario ond sy’n rhoi tua £300m yn rhy ychydig i Gymru.

Cyhuddodd Richard Wyn Jones y pleidiau Prydeinig o “siwgrwobrwyo” yr Alban wrth beidio â diwygio’r fformiwla, sy’n eu ffafrio nhw, oherwydd bod y refferendwm ar y gorwel.

Roedd hynny, meddai, er eu bod nhw i gyd wedi cytuno 18 mis yn ôl nad oedd y system bresennol o ariannu’n un addas bellach.

Pleidiau Llundain yn ‘poeni dim’

“Mae’r ffordd y mae Cymru’n cael ei ariannu a’r ffordd mae’r Alban yn cael ei ariannu’n gysylltiedig gyda’i gilydd, a be ‘da ni’n gwybod ydi fod Cymru’n cael cam,” meddai Richard Wyn Jones.

“Os oes ‘na bleidlais ‘Na’ mewn ychydig wythnosau, y ffaith amdani ydi bod hyn yn negyddol o safbwynt rhagolygon economaidd a chymdeithasol Cymru, ac mae fel petai’r pleidiau unoliaethol yn poeni dim am hynny.”

Er ei bod hi hefyd o’r farn bod angen diwygio’r ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu, dywedodd Eluned Morgan bod sefyllfa’r Alban yn golygu nad oedd hynny’n opsiwn gwleidyddol ar hyn o bryd.

“Mae Barnett wedi bod yn broblem i Gymru ers tro byd, ond mae’n rhaid i ni gofio, mae bach yn naïf i feddwl bod nhw’n mynd i ddweud wrth bobl yn yr Alban bod nhw’n mynd i ddiwygio Barnett jyst cyn refferendwm,” meddai Eluned Morgan.