Llio Maddocks, enillydd y goron heddiw
Croeso i bodlediad olaf golwg360 o Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon, wrth i bethau ddechrau dirwyn i ben yn y Bala.

Iolo Cheung sydd yn sgwrsio heddiw â Dewi Prysor, y bardd a’r awdur fu’n un o feirniaid cystadleuaeth y goron gafodd ei gyflwyno heddiw i Llio Maddocks.

Ac yn ymuno â nhw mae Aled Sion, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a dyn sydd wedi bod yn brysur tu hwnt yr wythnos hon yn cadw trefn ar bethau!

Mae’r tri’n trafod enillydd y goron a rhai o’r lleill fu’n fuddugol yn ystod yr wythnos, gyda thalentau lleol yn codi i’r brig.

Maen nhw hefyd yn trafod ymweliad Carwyn Jones â maes yr Eisteddfod heddiw, eu huchafbwyntiau personol nhw, ac ymweliad Eisteddfod yr Urdd â Chaerffili y flwyddyn nesaf.

Ac mae gan y ddau farn pendant iawn ynglŷn â’r drafodaeth fu ar y cyfryngau yr wythnos hon am ddywieithrwydd yn yr eisteddfod.

Gwrandewch yma: