Mae prynhawn dydd Iau wastad yn un o uchafbwyntiau wythnos Eisteddfod yr Urdd, wrth i’r bardd buddugol gael ei gadeirio – ac eleni y gŵr lleol Gruffudd Antur gipiodd hi yn y Bala.
Felly pwy gwell i ymuno â Iolo Cheung ar bodlediad dyddiol golwg360 na’r dyn ein hun, Gruffudd Antur, ac un o feirniaid y gystadleuaeth, y bardd Eurig Salisbury.
Yn naturiol, roedd hi’n ddigon anodd i Gruff gelu’r canlyniad oddi wrth ei holl deulu a’i ffrindiau yn ystod ei eisteddfod leol – ond tybed a oedd Eurig wedi llwyddo i ddyfalu’r enw y tu ôl i ffugenw ‘Gwenno’?
Mae’r ddau hefyd yn trafod enillwyr gwobrau Tir na n-Og a llwyddiant y papur newydd lleol, Y Cyfnod, yn ogystal â lleisio’u barn ar y drafodaeth danllyd ddiweddar ynglŷn â dwyieithrwydd ar faes Eisteddfod yr Urdd.
A phwy sydd wedi bod yn hunlunio yr wythnos yma tybed?