Gruffudd Antur
Gruffudd Antur o Aelwyd Penllyn yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Meirionydd eleni.

O dan y ffug enw ‘Gwenno’, roedd wedi ysgrifennu awdl ar y testun ‘Pelydrau’.

Daw Gruffudd, 22 oed, o Lanuwchllyn, Y Bala ac mae wedi graddio mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth.

Bellach mae’n astudio ar gyfer gradd MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gobeithio cychwyn ei gwrs doethuriaeth yno fis Hydref.

Mari George ac Eurig Salisbury oedd beirniaid y gystadleuaeth ac roedd y ddau yn gytûn bod “harddwch” a “swyn aeddfed y gynghanedd” yng ngwaith Gruffudd Antur yn deilwng o’r wobr gyntaf.

Mae Cadair yr Eisteddfod eleni wedi’i rhoi gan Gangen Meirionydd o NFU Cymru.

‘Gwefreiddio’

Yn ôl y beirniaid: “O’r darlleniad cyntaf, cawsom ein gwefreiddio gan awdl Gwenno. Cân serch yw hi ac yn wahanol i bob cystadleuydd arall, mae safon cerdd Gwenno yn gyson uchel o’r dechrau i’r diwedd.

“Gyda chlod mawr y mae Gwenno yn llawn haeddu cadair yr Eisteddfod,” meddai’r beirniaid.

Fe enillodd Gruffudd gadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri 2012.

Yn drydydd roedd ‘Selfie yn Fflandrys’, sef Guto Dafydd o Gylch Llŷn, ac yn ail roedd ‘Mallt’ sef Steffan Gwyn, aelod o’r tu allan i Gymru.

Ac fe ddywedodd Gruffudd Antur bod ennill y gadair yn eisteddfod ei ardal ef hyd yn oed yn fwy arbennig: