Aled Sion gyda Chadair Eisteddfod yr Urdd
Daeth y newyddion bore ma fod saer a dylunydd Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni, John Pugh o Bennal Machynlleth, wedi colli’i frwydr â salwch hirdymor ddoe.

Cafodd y gadair ei dangos y bore yma yn y gynhadledd i’r wasg, gyda chyfarwyddwr yr Eisteddfod Aled Sion yn estyn ei gydymdeimlad i deulu’r crefftwr.

Cynlluniwyd y gadair o onnen 150 oed o Drawsfynydd, wedi ei ffurfio ar batrwm Albanaidd, gydag Iolo Puw, o’r Parc ger Y Bala, yn cynorthwyo â’r gwaith gorffenedig.

Perthynas iddo ef – Gruffudd Antur o Lanuwchllyn – a enillodd y gadair.

Noddwyd y gadair eleni gan NFU Cymru Sir Feirionydd.