Carys a Pat Jones
Bydd seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd heno i gyflwyno Tlws John a Ceridwen Hughes eleni i ddwy o gonglfeini Aelwyd Chwilog ger Pwllheli.
Mae Pat Jones a Carys Jones wedi bod yn arweinwyr ar yr aelwyd yn ddi-dor ers 33 o flynyddoedd.
A heno fe fyddan nhw’n cael cydnabyddiaeth am eu gwaith gwirfoddol dros y cyfnod hwnnw.
Mae’r Fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Cafodd y ddwy eu henwebu gan Alun Jones a Catrin Alwen ar ran aelodau’r Urdd a rhieni’r ardal am eu gwaith yn cynnal Aelwyd Chwilog yn wythnosol.
Bellach mae bron i 60 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r Aelwyd sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Neuadd Bentref Chwilog yn Eifionydd.
Wrth siarad â’r wasg y bore yma fe ddywedodd Carys Jones eu bod am rannu’r anrhydedd a’r holl blant fu’n rhan o’r aelwyd dros y blynyddoedd.
“Hoffwn ni ddiolch am y fraint yn ddidwyll ond rydyn ni yma ar ran y miloedd o blant [sydd wedi bod drwy’r aelwyd],” meddai Carys Jones.
“Mae’n diolch ni’n arbennig iddyn nhw am fod mor driw dros y blynyddoedd.”