Jennifer Haley
Enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014 yw Jennifer Haley o Gwndy ger Cil-y-Coed, Sir Fynwy.

Mae Jennifer yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Cil-y-Coed a dyma ei phrofiad cyntaf o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Ganwyd a magwyd Jennifer yng Nghasnewydd a hi yw’r unig un o’i theulu ar yr aelwyd gartref sy’n siarad Cymraeg. Mae’n rhoi’r clod am fentro i’r gystadleuaeth eleni i’w hathrawes Gymraeg yn yr ysgol. Mae’n astudio Hanes, Bagloriaeth Cymru a Chymraeg ar gyfer ei harholiadau Lefel A ac mae’n dweud iddi ddewis astudio’r Gymraeg oherwydd ei fod yn heriol.

‘Eisiau helpu achub yr iaith’

Wrth siarad â golwg360 ar ôl cael ei henwi’n enillydd, fe ddywedodd Jennifer Haley bod y fuddugoliaeth yn hwb iddi gan nad oedd hi’n cael llawer o gyfle i siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

“Rwy’n teimlo’n hapus iawn ond nerfus hefyd,” meddai. “Dwi eisiau helpu achub yr iaith a fi’n meddwl ei fod e’n bwysig i ddysgu Cymraeg.

“Mae yna gyfle i siarad yn yr ysgol ac mae hynny’n bwysig. Rwyf wedi bod yn Llangrannog a Glan Llyn ond does ddim llawer o gyfleoedd. Mae’n anodd i fi allu siarad yr iaith tu allan i’r ysgol achos mi rydw i’n agos at y ffin.

“Dw i eisiau symud i’r gogledd yn y dyfodol i ddysgu Cymraeg ac i ymarfer yn fwy.”

Sboncen

Mae Jennifer yn chwarae sboncen dros Gymru ac yn teithio’n helaeth wrth gymryd rhan mewn cystadlaethau ar hyd a lled y wlad a thramor.

Aeth ei thaith ddiwethaf â hi i’r Eidal i’w chystadleuaeth Ewropeaidd cyntaf yn yr adran hŷn.

Dwed mai teithio yw un o’i hoff ddiddordebau, felly mae’n ei theimlo hi’n fraint cael teithio gyda’i ffrindiau a gweld lleoliadau newydd wrth chwarae sboncen. Mae Jennifer yn hyfforddi bron bob dydd ac yn gweithio yn ei Chlwb Sboncen lleol ddwywaith yr wythnos.

Wedi cwblhau ei harholiadau Lefel A, gobaith Jennifer yw teithio a chwarae sboncen am flwyddyn ac yna ei huchelgais yw mynd i’r Brifysgol yn America i astudio a chwarae sboncen. “Ond, hoffwn ddychwelyd i Gymru wedi hynny,” meddai.

‘Sgyrsiol’

Cyflwynwyd y Fedal i Jennifer dan y ffug enw ‘Siwan’ am ysgrifennu ar unrhyw dair ffurf a pharatoi sgwrs ar dâp.

Canolbwyntiodd un darn o’i gwaith ysgrifenedig ar gymeriad adnabyddus i ardal yr Eisteddfod, sef Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd. Lluniodd lythyron personol rhyngddo a’i gyfnither mewn arddull sgyrsiol, agos-atoch, yn ôl y beirniaid, Jane Nicholas a Beryl Davies.

Yn gydradd ail yn y gystadleuaeth eleni y mae ‘Pwsi’ sef Sophie Squibbs, Ysgol Cil y Coed, Sir Fynwy ac ‘Aneurin’ sef Rachel Bevan, Ysgol Uwchradd Caerdydd. Yn drydydd mae’r ‘Nofiwr’ sef Rhys Crimlisk, Ysgol Uwchradd Caerdydd.