Joshua Mills, gyda'r Rhuban Glas
Mae tenor o Gastell Nedd wedi gwneud marc go iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni.

Mae Joshua Mills wedi llwyddo i gipio tair o brif wobrau lleisiol y brifwyl – ac mae’r sylwebwyr yn darogan y bydd yn enw mawr yn y byd canu yn y dyfodol.

Mae eisoes wedi ennill Gwobr Goffa Towyn Roberts, sef y Rhuban Glas ar gyfer cantorion dan 25 oed; yn ogystal â Gwobr Goffa Osbourne Roberts, y Rhuban Glas, yn y gystadleuaeth agored heddiw. Mae hefyd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth yr unawd operatig.

Yn ogystal â phlesio’r beirniaid, mae wedi bod yn ganwr poblogaidd iawn gyda chynulleidfa’r Pafiliwn hefyd, gyda’r dorf yn cymeradwyo’n frwd iawn pan mae ei enw’n cael ei gyhoeddi.