Cafodd Stomp Fach i blant a phobl ifanc ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw – ac, yn ôl y trefnydd, mae’n rhywbeth y byddan nhw’n hoffi ei ddatblygu ymhellach.

Roedd naw o feirdd yn cymryd rhan ac roedden nhw’n cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill stôl y Stomp.

Meddai trefnydd Stomp y Plant, Leusa Fflur Llewelyn, ar ran Llenyddiaeth Cymru: “Mi aeth hi’n wych. Mi o’n i’n poeni na fydda neb yn dod oherwydd ei fod o mewn lle diarffordd ond roedd y babell yn orlawn.

“A be oedd yn y ddifyr oedd bod cymaint o oedolion â phlant yno!”

Roedd Stomp y Plant yn cynnwys mwy neu lai yr un beirdd ag sy’n cymryd rhan yn y Stomp i oedolion sy’n gael ei gynnal yn y Pagoda nos Wener a doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw heb sgwennu cerddi i blant o’r blaen.

Enillydd Stomp y Plant oedd Casia Wiliam o Nefyn – ac roedd hi wedi rhyfeddu.

“Dw i erioed wedi ennill dim byd yn fy mywyd,” meddai wrth dderbyn y stôl.