Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi dadlau bod arian yr Undeb Ewropeaidd wedi methu yng Nghymru.
Roedd Guto Bebb AS yn traddodi darlith Eisteddfod y Sefydliad Materion Cymreig heddiw o dan y teitl ‘Arian Ewrop: ai dyma ddiwylliant dibyniaeth diweddaraf Cymru?’
Dywedodd Guto Bebb, sy’n aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ Cyffredin, bod goruchafiaeth y sector gyhoeddus a gormod o fiwrocratiaeth wedi dylanwadu ar weinyddiaeth cymorth yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Dywedodd Guto Bebb: “Mae gan Gymru ddiwylliant dibyniaeth o’r top i’r gwaelod.
“Mae hynny’n amlwg yn y nifer uwch na’r cyfartaledd o hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru, ein dibyniaeth ar y Sector Cyhoeddus a’r ffordd mae arian yr UE wedi cael ei ddefnyddio a’u rheoli.
“Rydym wedi creu grŵp arall o gyrff trydydd sector, dosbarthwyr grantiau, ymgynghorwyr economaidd ac yn y blaen sydd bellach yn ddibynnol ar fethiant parhaus arian yr UE i newid economi Cymru gan y bydd llwyddiant yn gweld tranc y sefydliadau hyn.”