Roedd Martin Croydon yn cael ei groesawu ym mhabell Maes D heddiw
Mae enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni wedi dweud bod dysgwyr mewn ardaloedd fel Pen Llŷn yn cael eu “hanghofio” weithiau.
Roedd Martyn Croydon, sy’n dod o Kidderminster yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Llannor ger Pwllheli, yn siarad ar faes yr Eisteddfod heddiw wedi iddo gipio’r tlws neithiwr.
“Gobeithio y bydd y wobr yma’n rhoi hwb i ddysgwyr, yn enwedig ym Mhen Llŷn,” meddai, “achos dw i’n meddwl ein bod ni’n cael ein hanghofio weithiau oherwydd bod cymaint o bwyslais ar wersi i ddysgwyr yn y de a’r dwyrain.”
Dechreuodd ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio llyfrau a thros y we, ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.
Erbyn hyn mae Martyn Croydon, sydd wedi setlo yn Llannor, wedi pasio’i arholiad Lefel A Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.
Ychwanegodd ei fod o “methu coelio” ei fod wedi ennill a’i fod yn deimlad “anhygoel”.