Cafodd ymwelwyr â phabell S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol y cyfle cynta’ i gael blas ar y gyfres dditectif rhyngwladol Y Gwyll/Hinterland, heddiw.
Yn y sesiwn roedd y prif actorion Richard Harrington a Mali Harris, â’r Uwch Gynhyrchydd, Ed Thomas yn trafod y cynhyrchiad.
Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, “Mae angen cyfres dditectif ar bob gwlad a sianel ac mae llawer o drafod wedi bod am Y Gwyll/Hinterland.
“Nawr, wrth i ni nesáu at y darllediad ar S4C ym mis Hydref, mae’n gyffrous iawn cael dangos clipiau o’r ddrama am y tro cyntaf.
“Mae’r clipiau yn cyflwyno dirgelwch a naws y gyfres a fydd yn siwr o gyffroi a chodi awch i weld mwy o’r gyfres yn hwyrach eleni.”