Gwyddonydd o Borthaethwy, Ynys Mon, sy’n cael ei anrhydeddu efo Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol fore heddiw.

Mae Alwyn R Owens yn beiriannydd, ac wedi gweithio’n galed am flynyddoedd i boblogeiddio gwyddoniaeth, ac er mwyn trin a thrafod y maes yn Gymraeg.

Cyn ymddeol yn 1998, Alwyn Owens oedd Pennaeth Adran Electroneg Prifysgol Bangor. Ond am ei waith y tu allan i’r coleg y mae’n derbyn ei wobr eleni. Ef oedd cadeirydd y pwyllgor a drefnodd yr arddangosfa wyddoniaeth gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd yn 1966, ac mae’n parhau i ymddiddori ym maes cyflwyno gwyddoniaeth i’r cyhoedd.

Bu’n gadeirydd Pwyllgor Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am rai blynyddoedd, ac yn gadeirydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.