Mae ychydig dan 90,000 o bobol wedi ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych hyd yn hyn – sy’n cymharu’n ffafriol gyda niferoedd y ddwy flynedd ddiwetha’.
Hyd at ddiwedd dydd Mercher, roedd cyfanswm o 85,796 wedi dod trwy’r gatiau, o’i gymharu â 79,649 ym Mro Morgannwg y llynedd, a 88,625 yn Wrecsam yn 2011.
Sut mae’r ymwelwyr dyddiol yn cymharu?
Dydd Sadwrn – 16,571 eleni (15,749 yn 2012 a 17,881 yn 2011)
Dydd Sul – 16,032 eleni (15,305 yn 2012 a 16,794 yn 2011)
Dydd Llun – 15,754 eleni (16,121 yn 2012 a 16,048 yn 2011)
Dydd Mawrth – 17,813 eleni (13,126 yn 2012 a 17,004 yn 2011)
Dydd Mercher – 19,626 eleni (19,368 yn 2012 a 20,898 yn 2011)
Mae sïon ar y Maes fod “miloedd” o bobol eisoes wedi prynu tocyn ‘hwyr’ ar gyfer pnawn Gwener er mwyn gweld perfformiad ola’ un y band, Edward H Dafis, ar y llwyfan perfformio.
Mae modd prynu tocyn am hanner pris i ddod i’r Maes wedi 4.30yp.