Craig ab Iago, chwith, Kathleen Isaac, Martyn Croydon. Mae Darran Lloyd hefyd ar y rhestr fer
Bydd enillydd teitl Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych heno.

Mae pedwar wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn dilyn rownd gynderfynol ym Mhrestatyn ym mis Mai – roedd ugain wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth.

Y pedwar ar y rhestr fer yw Craig ab Iago sy’n hanu o Ddyffryn Nantlle, Martyn Croydon o Ben Llŷn, Kathleen Isaac o Abertawe, a Darran Lloyd o Aberdâr.

Bydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyflwyno eleni gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a bydd yr enillydd hefyd yn derbyn £300, er cof am David a Mary Jones, Gwenallt, Dinbych.

Bydd y tri ymgeisydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau llai, a £100 yr un. Y beirniaid yw John Les Tomos, Eleri Swift Jones a Caryl Parry Jones.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni am 7yh heno ym Melin Brwcws, Dinbych.

Cefndir y pedwar

Craig ab Iago
Er ei fod yn dod o deulu Cymraeg, cafodd Craig ei eni a’i fagu mewn gwahanol rannau o Loegr ac Ewrop gan fod ei dad yn gweithio gyda’r Awyrlu.

Ni chafodd ei fagu yn y Gymraeg, a phan ddychwelodd i Gymru ar gyfer angladd teuluol cafodd ei atgoffa eto nad oedd yn siarad yr un iaith â nifer fawr o’i deulu estynedig, felly dyna fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Aeth ar gwrs WLPAN dwys i Lanbed, cyn dychwelyd i’r coleg i orffen ei radd ffisiotherapi, ac yna cael swydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a symud i Rosgadfan i fyw, cyn setlo ym mhentref Llanllyfni chwe blynedd yn ôl.

Martyn Croydon

Daw Martyn Croydon o Kidderminster yn wreiddiol, ond dywed ei fod wedi gwirioni gyda Phen Llŷn  ers cyn cof, a phan ddaeth y cyfle fe symudodd draw i Gymru i fyw, i redeg ei fusnes creu gwefannau ac i astudio gyda’r Brifysgol Agored.

Dechreuodd Martyn ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio llyfrau a thros y we, ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.

Erbyn hyn mae Martyn, sydd wedi setlo yn Llannor, wedi pasio’i arholiad Lefel A Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.

Kathleen Isaac

O Abertawe y daw Kathleen Isaac yn wreiddiol, a phan symudodd o’r ddinas i Crosshands bum mlynedd yn ôl, sylweddolodd pa mor gryf oedd y Gymraeg yn yr ardal leol, a’i bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg gyda’i phlant.

Dechreuodd greu bywyd Cymraeg o’i hamgylch, gan fynychu gwersi rheolaidd yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion lleol, ymarfer yr iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth, darllen llyfrau Cymraeg gyda’r plant, gwylio S4C, gwrando ar Radio Cymru, a darllen arwyddion Cymraeg mewn siopau.

Ar hyn o bryd mae Kathleen yn dilyn y cwrs canolradd unwaith yr wythnos, ac yn mynd i ddosbarth ‘siawns am sgwrs’ yn rheolaidd hefyd.

Darran Lloyd

Daw Darran Lloyd o Aberdâr yng nghymoedd y de, ac mae’n dysgu Cymraeg ers bron i bedair blynedd. Mae’n gweithio fel hyfforddwr yn Heddlu De Cymru, ac yn teimlo bod dysgu’r iaith wedi newid ei fywyd.

Erbyn hyn mae Darran yn dysgu dosbarth mynediad Cymraeg Heddlu De Cymru. Er iddo astudio rhywfaint o’r Gymraeg yn yr ysgol, nid oedd Darran yn defnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth o gwbl, a bu’n difaru ei fod heb barhau i ddysgu’r iaith.

Ddwy flynedd yn ôl, enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn y gwaith, a symbylodd hyn Darran i barhau gyda’i Gymraeg.