Hywel Wyn Edwards - gorfod ymyrryd
Fe fu’n rhaid i awdurdodau’r Eisteddfod gyfaddawdu er mwyn tawelu cwynion rhieni blin tros y ddawns flodau eleni.

Ar un adeg, doedd 17 o’r merched ddim am gael cyfle i ddawnsio ar y prif lwyfan, wrth i’r nifer gwreiddiol gael ei dorri i ddim ond 24.

Fe fu’n rhaid i Drefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, fynd i gyfarfod i dawelu’r rhieni.

Yn y diwedd, mae’r holl blant ar y llwyfan ac yn dawnsio rhywfaint, ond dim ond 24 sydd yn y rhannau allweddol.

Y ddadl

Roedd yr anghydfod wedi codi wrth i tua 90 o ferched gynnig am le yn y ddawns flodau.

Ar un adeg, meddai Hywel Wyn Edwards, roedd bwriad i geisio cael dau dîm o ferched ar gyfer y ddwy brif seremoni.

Yn y diwedd, dim ond 41 oedd ar ôl ac fe fuon nhw’n cymryd rhan yn yr ymarferiadau tan y pythefnos ola’ cyn yr Eisteddfod.

Bryd hynny, fe gafodd bron eu hanner glywed na fydden nhw’n cael dawnsio – dim ond eistedd ar y llwyfan. Roedd y dewis yn cael ei wneud ar allu dawnsio.

Roedd rhieni’n cwyno bod y plant wedi cael eu siomi.

Cyfarfod ‘anodd’

Gyda nifer o’r rhieni ac athrawon yn cwyno’n gry’, fe aeth Hywel Wyn Edwards i’w cyfarfod nhw adeg un o’r ymarferion. Roedd yn cydnabod bod hwnnw’n gyfarfod ‘anodd’.

Yn awr, meddai, mae pawb wedi derbyn y trefniant newydd ond mae Golwg360 yn deall bod rhai rhieni ac athrawon yn parhau’n anfodlon gyda’r ffordd y gwnaed y dewis.

Llywydd yr Eisteddfod, Prydwen Elfed Owens, yw ymgynghorydd y brifwyl ym maes y ddawns.

Fe fydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd ar ôl yr Eisteddfod ac mae swyddogion yn debyg o awgrymu y byddai’n ddoethach gwneud y dewis yn gliriach ac yn gynharach neu roi cyfle i bawb ddawnsio.