Mae meddyg teulu wedi dweud bod angen i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod yn ddwyieithog er mwyn gwella’r gofal clinigol i ddefnyddwyr.

Roedd Dr Llinos Roberts yn siarad mewn trafodaeth am ymholiad statudol Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, i’r defnydd o’r iaith mewn darpariaeth gofal sylfaenol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw – flwyddyn union ers i’r Comisiynydd gyhoeddi’r ymholiad.

Dywedodd Dr Llinos Roberts mai “gwella’r gwasanaeth” yw nod yr ymholiad statudol yn y pen draw. “Os yw’r cyfathrebu yn syml ac yn ddealladwy i gleifion, bydd y gofal clinigol yn well,” meddai.

“Os ydyn ni’n gweld Cymru fel gwlad ddwyieithog, mae angen dewis i ddefnyddwyr ac fe ddylai’r maes iechyd fod ar flaen y gad gyda hynny.”

Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Meri Huws ac roedd y cyfranwyr eraill yn aelodau o banel arbenigol sy’n gweithio gyda swyddfa’r comisiynydd ar yr ymholiad statudol.

Roedd y rhain yn cynnwys cadeirydd y panel arbenigol, Dr Peter Higson; y niwrolegydd ac uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Meddygol Caerdydd, Dr Gareth Llewelyn; a’r darlithydd mewn gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Elin Royles.

Dywedodd Dr Llinos Roberts hefyd bod 70-80% o’i chleifion yn y feddygfa yn Nhrimsaran yn siarad Cymraeg.

“Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad o boblogaeth Trimsaran,” meddai.

“Ond mae’n dangos bod pobl eisiau meddygon sy’n siarad Cymraeg, neu’r iaith maen nhw’n  fwy cyfforddus yn ei ddefnyddio, pan maen nhw  ar eu gwanaf.

“Y broblem ar hyn o bryd yw bod pobl ddim yn disgwyl gwasanaeth Cymraeg ac felly ddim yn gofyn amdano.”

Y Gymraeg yn broblem i ddenu doctoriaid

Dywedodd Meri Huws bod darparwyr gofal mae swyddfa’r Comisiynydd wedi siarad gyda nhw hyd yma yn dweud bod gwasanaeth dwyieithog yn mynd i fod yn broblem i ddenu doctoriaid i Gymru.

Wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd Pwyllgor Meddygon Teulu Gogledd Cymru, Dr Phil White, wedi rhybuddio y gallai gofal cleifion mewn ardaloedd gwledig fod mewn sefyllfa argyfyngus ymhen blwyddyn oherwydd diffyg doctoriaid gan orfodi rhai meddygfeydd i roi’r gorau i gynnig rhai gwasanaethau.

“Mae delwedd boblogaidd ei fod yn broblem ond does dim tystiolaeth,” meddai Dr Gareth Llewelyn.

“Mae angen astudiaeth bellach i weld pam bod ardaloedd gwledig yn methu denu meddygon teulu oherwydd mae’r un fath yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr hefyd.”