Elfed Roberts, Roy Noble, cadeirydd y Tasglu, a rhai o’r aelodau eraill yn cyfarfod ar y maes bore ma
Bydd trafodaeth ynglŷn â sut i foderneiddio’r Eisteddfod yn cael ei gynnal ar faes y Brifwyl yn Sir Ddinbych heddiw.
Y llynedd cafodd Grŵp Gorchwyl ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol yr ŵyl a sut i’w moderneiddio.
Ymhlith yr awgrymiadau a wnaed gan y cyn Weinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, oedd a chyfrifoldeb am  yr iaith ar y pryd, oedd bod angen i’r Eisteddfod wneud mwy i ddenu pobl ddi-Gymraeg.
Bydd y tasglu yn ystyried nifer o feysydd gan gynnwys pwnc sy’n debygol o ennyn cryn drafodaeth, sef a ddylai’r Eisteddfod fod ar un safle parhaol.
Bydd y sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal am 2yh yn y Babell Ddawns ar y Maes heddiw dan gadeiryddiaeth cadeirydd y Grŵp Gorchwyl, y darlledwr Roy Noble.