Elfed Roberts
Ychydig dan £600,000 yw’r nod ar gyfer gwerthiant tocynnau, os yw Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau am dalu’i ffordd.

Fe fydd llawer yn dibynnu ar dywydd ail hanner yr wythnos, ar ôl pedwar diwrnod cynta’ cymysg.

Ond, yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, does dim costau trwm wedi bod eleni o ran tywydd ac mae’r gronfa leol hefyd £30,000 yn uwch na’r disgwyl.

Un gwendid yw fod llai o stondinwyr ar y maes eleni.

Llai o stondinwyr

Roedd rhai mudiadau a chwmnïau’n dweud na allen nhw ddod oherwydd toriadau a’r argyfwng economaidd, meddai Elfed Roberts.

Ond roedd nawdd ar gyfer yr ŵyl wedi bod yn dda ar tua £440,000 gan olygu fod angen codi tua £575,000 trwy werthiant tocynnau yn ystod yr wythnos.

Ar ôl dydd Llun gwan oherwydd y glaw, roedd y dyrfa o fwy na 17,000 ddoe yn agos at gyfartaledd y blynyddoedd diwetha’.

Mae rhai costau’n parhau’n ansicr, meddai Elfed Roberts, gan gynnwys costau rhai hawliau perfformio.