Simon Brooks
Mae’r darlithydd Dr Simon Brooks wedi mynegi ei bryder am y ffordd mae’r cyfryngau Cymraeg yn ceisio apelio at ddysgwyr a’r di-Gymraeg.

Roedd  yn siarad ar faes yr Eisteddfod mewn digwyddiad oedd wedi cael ei drefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig i drafod y cyfryngau Cymraeg a sut i reoli’r dirywiad diweddar.

Dywedodd Simon Brooks ei fod yn poeni pan mae sefydliadau fel S4C yn rhoi pwyslais ar apelio at y di-Gymraeg a siaradwyr Cymraeg  sydd ddim yn defnyddio’r cyfryngau Cymraeg.

Ychwanegodd ei fod yn poeni bod sefydliadau yn “dewis y strategaeth anghywir” tra bod y rhai sydd yn defnyddio’r gwasanaethau “yn mynd allan trwy’r drws cefn.”

Roedd golygydd rhaglenni Radio Cymru Betsan Powys; cyflwynydd Heno Angharad Mair, a chyfarwyddwr rhaglenni S4C, Dafydd Rhys, hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn drafod heddiw.

Dywedodd Betsan Powys mai’r dysgwyr a rhai gydag ychydig o Gymraeg oedd y cyntaf i rannu eu barn am Radio Cymru fel rhan o ymgynghoriad y Sgwrs Fawr.

“Y neges oedden ni’n ei gael oedd bod dysgwyr eisiau i Radio Cymru barhau fel gwasanaeth gyfan gwbl Gymraeg ond un oedden nhw’n ei ddeall.

“Mae angen i ni ganolbwyntio ar y gwasanaeth crai ac yna adeiladu pethau i helpu dysgwyr o gwmpas hynny – fel ar y wefan.”

Deunydd digidol S4C

Dywedodd Simon Brooks hefyd ei fod yn credu y dylai deunydd digidol S4C fod yn uniaith Gymraeg oherwydd nad yw wedi gweld tystiolaeth bod dwyieithedd yn gweithio.

Ond ychwanegodd bod buddsoddiad diweddar S4C mewn cyfryngau digidol wedi bod yn “ardderchog”.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae natur y gynulleidfa a’r iaith yn newid. Beth mae S4C angen ei wneud yw creu sianel mae pobl yn siarad amdani yn gyson.”