Mae Ysgrifennydd Cymru wedi datgan o blaid cadw’r Eisteddfod Genedlaethol yn symudol.

Wrth i banel sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ystyried materion felly, fe anfonodd David Jones neges trydar yn dweud fod rhaid iddi barhau i symud.

“Pwysigrwydd yr eisteddfod yw ei fod yn ymweld â phob cymuned yng Nghymru, ni fyddai’r un fath os oes rhaid i gymunedau Cymru ymweld ag ef,” meddai.

Roedd wedi bod ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun.