Mae Cymdeithas Myfyrwyr Celtaidd Prydain ac Iwerddon wedi’i ffurfio gan griw o fyfyrwyr o’r Alban eleni – ac mae’n cael sylw yn rhifyn diweddara’ o gylchgrawn myfyrwyr Adran y Gymraeg, Aberystwyth.

Yn ei erthygl yn Y Ddraig, mae Jacob Dafydd Ellis yn nodi mai bwriad y gymdeithas yw “hyrwyddo astudiaethau Celtaidd a’r ieithoedd”.

“Rydym bellach wedi cynllunio camau gweithredol ar gyfer y flwyddyn hon, gan gynnwys lansiadau ffurfiol i’r gymdeithas, ffurfio canghennau o sefydliadau dan nawdd y gymdeithas, a bwriadwn gyhoeddi prosbectws o wahanol sefydliadau sydd yn darpasu modiwlau ar astudiaethau Celtaidd,” meddai Jacob wedyn.

“Yn ogystal, gobeithiwn ehangu’r aelodaeth drwy sefydlu gwefan a sefydlu ‘Cyfeillion y Gymdeithas’.

“Mae gennym gysylltiadau gyda myfyrwyr o Gaergrawnt, yr Iseldiroedd a’r Almaen yn barod, gan gynnwys myfyrwyr o Ganada a Llydaw,” meddai.