Mae ail rifyn o gylchgrawn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, wedi ymddangos ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro eleni.
Fe ddaeth rhifyn 2013 o Y Ddraig allan yn swyddogol ar fore Sadwrn ola’r eisteddfod yng Nghilwendeg, a hynny fel rhan o waith y myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs Cymraeg Proffesiynol.
“Unwaith eto eleni, ni, y myfyrwyr sydd yn gyfrifol am ei gynhyrchu a’i gyhoeddi,” meddai’r ‘Criw’ sy’n arwyddo’u henwau o dan y Cyflwyniad – Cerys Davey, Catrin Herbert, Eiri Sion, Elain Hughes, Hanna Merrigan, Heledd Llwyd, Miriam Glyn a Rhys Hughes.
Yn y rhifyn hwn, mae cerdd am gadw enw Ysgol Rhydfelen yn fyw er iddi gael ei hail-fedyddio’n Ysgol Gartholwg; mae Mared Llywelyn yn ysgrifennu am fryngaer Tre’r Ceiri; a cherdd gan Ianto Phillips yn gofyn beth yw gwerthoedd ‘Cymdeithas’ ein dyddiau ni.
Ymysg yr awduron rhyddiaith yn Y Ddraig y mae Catrin Herbert, Miriam Elin Jones a Llinos Haf Jones.