Mae un delyn wedi bod yn denu mwy o sylw na’r gweddill ar stondin Canolfan Delynau Cymru yn y Neuadd Arddangos.

Ddydd Mawrth y daeth yr offeryn newydd sbon o’r gweithdy yn Llandysul – telyn fechan, o bren onnen, heb ei phaentio. Ac yn fwy perthnasol na dim, am bris o £2,295 (neu lai na £2,000, o’i phrynu drwy’r ysgolion).

“R’yn ni’n ceisio dod a’r delyn yn agosach at bobol ifanc, o ran pris, maint ac o ran ei dyluniad,” meddai Canolfan Telynau Teifi. “Mae gyda ni delynau o bob lliw, ond mae pobol wastad yn gofyn am un blaen.

“Mae’r delyn hon, gobeithio, o fewn gafael rhieni, oherwydd mae telynau’n gallu bod yn ddrud iawn.”

Ac enw’r delyn? Wel, gan ei bod wedi gwneud ei hymddangosiad cynta’ ar faes Sir Benfro 2013 – Telyn Boncath.