Enillydd Ysgoloriaeth Geraint George eleni yw Owen Bidder o Gorseinon ger Abertawe, a hynny gyda ffilm yn dangos pa mor bwysig yw’r mochyn daear i fyd natur.

Dyma’r tro cynta’ i’r ysgoloriaeth gael ei chynnig, er cof am yr amgylcheddwr a fu farw’n ddisymwth ym mis Ebrill 2010.

Roedd Owain, 25 oed, wedi anfon ffilm fer gyda sylwebaeth i’r gystadleuaeth o dan y teitl ‘Yn ystod y nos’.

Elinor Gwynn, Alun Gruffydd ac W Dyfrig Davies oedd y beirniaid. Fe gafodd Owain Bidder ei ganmol am waith camera clir, a’i esboniadau da. Roedd y mochyn daear yn cael ei ddisgrifio fel creadur y nos, swil, sydd am gadw draw oddi wrth ddyn.