Mae’n annhebygol y bydd cyfanswm yr ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 yn croesi’r 100,000, fel oedd y disgwyl ddechrau’r wythnos.

Ddydd Gwener, fe ddaeth 11,140 drwy’r gatiau i faes Cilwendeg, gan fynd a chyfanswm yr wythnos i 71,808.

Roedd nifer ymwelwyr y pumed dydd fil a hanner yn fwy nag ymwelwyr dydd Gwener yng Nglynllifon, Eryri, y llynedd. 9,870 ddaeth bryd hynny.

Erbyn diwedd y pumed dydd yng Nglynllifon, roedd cyfanswm yr ymwelwyr yn 85,425.