Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Bydd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn trafod dyfodol cymunedau Cymraeg ar faes yr Eisteddfod heddiw. Fe fydd hi hefyd yn dweud nad ydi hi’n fodlon aros dim hirach i Lywodraeth Cymru weithredu.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Gynghrair Cymunedau Cymraeg, a’r bwriad ydi cwestiynu pam ma’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sergeant AC, yn oedi cyn cyhoeddi TAN20.
Yn ol y Gynghrair, mae hynny’n golygu fod cynghorau sir yn pasio cynlluniau datblygu tai enfawr heb orfodaeth arnyn nhw i ystyried eu heffaith ar y Gymraeg.
Canlyniadau 2011 yn dangos patrwm
“Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos yn glir beth yw’r patrwm ieithyddol yn ein cymunedau,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, a fydd yn annerch y cyfarfod heddiw.
“Mae’r sefyllfa bresennol, lle caiff stadau mawr o dai eu codi heb ganllawiau clir ar sut i fesur eu heffaith ar y Gymraeg, yn sefyllfa anghynaladwy. Mae’n bryd gweithredu’n rhagweithiol ac yn gadarnhaol.
“Gall Llywodraeth Cymru gyfrannu tuag at ddatrys y sefyllfa trwy ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 sy’n rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau cynllunio lleol sut dylent ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau cynllunio.”
Oedi yn gwneud difrod
“Mae’r Nodyn Cyngor Technegol presennol mewn bodolaeth ers y flwyddyn 2000 ac mae wedi bod yn ddiffygiol o’r dechrau. Mae hi’n destun pryder i mi bod Llywodraeth Cymru heb fwrw ati i gyflawni’r gwaith.
“Ni allwn aros ddim hirach.”